Rhif y ddeiseb: P-06-1269

Teitl y ddeiseb: Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb: Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn marw yng Nghymru wedi colli’r cyfle i gael gofal lliniarol a diwedd oes. Roedd y cynllun gofal diwedd oes ar gyfer Cymru yn gweithio i drwsio hyn, ond bydd yn dod i ben ym mis Mawrth.  Ar hyn o bryd, nid oes cynllun newydd yn barod i gymryd ei le. Mae arnom angen brys am linell amser, cyllid a staff i gyflawni cynllun newydd. Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan heb unrhyw beth i gymryd ei le. Llofnodwch heddiw a helpwch ni i wneud yn siŵr nad yw teuluoedd yng Nghymru yn cael eu gadael mewn twll.

 

 

 

 


1.        Cefndir

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cael y ddeiseb uchod, sef ‘Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru’, gan yr elusen diwedd oes Marie Curie a’r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor (MND). Mae'r ddeiseb yn galw amgynllun strategol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Mae cynllun cyflawni cyfredol Llywodraeth Cymru ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022. Cafodd y cynllun, ynghyd â'r swm o £2 miliwn mewn cyllid i gefnogi’r broses o roi’r cynllun ar waith, ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2022 yn sgil y pandemig.

Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymruyn cynnwys ymrwymiad i ganolbwyntio ar ofal diwedd oes. Fodd bynnag, mae Marie Curie yn datgan bod Cymru, er gwaethaf yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gofal i’r rhai sy’n marw, bellach yn mynd i fod heb gynllun ar gyfer y bobl hynny am y tro cyntaf ers degawd, gan nad oes cynllun arall eto wedi’i gyhoeddi.

Fframwaith Clinigol Cenedlaethol

'Cymru iachach' yw ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Seneddol o ddyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n nodi y bydd Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, a gaiff ei ategu gan ddatganiadau ansawdd, yn llywio datblygiad gwasanaethau clinigol yng Nghymru. Bydd y cynlluniau cyflawni presennol ar gyfer cyflyrau difrifol yn cael eu disodli gan ddatganiadau ansawdd sy'n nodi bwriad polisi Llywodraeth Cymru. Bydd y datganiadau ansawdd yn cael eu hategu gan gynlluniau gweithredu'r GIG, a gaiff eu hategu yn eu tro gan rwydweithiau clinigol a Gweithrediaeth y GIG.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ansawdd ar gyfer canser, datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau'r galon, datganiad ansawdd ar gyfer strôc a datganiad ansawdd ar gyfer gofalu am gleifion difrifol wael

Yn ei llythyr at Gadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, dywed Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:

Mae datganiadau ansawdd yn gosod y gweledigaethau ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol ac maent wedi’u seilio ar fanylion gwasanaethau manylach. Maent yn disgrifio’r canlyniadau a’r safonau y disgwyliwn eu gweld gan wasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar gleifion. Bwriedir iddynt hefyd lywio pa nodweddion ansawdd y dylai gwasanaethau clinigol allweddol anelu atynt, yn ogystal â bod o gymorth i lywio’r Cylch Sicrhau Ansawdd lleol.

Yn wahanol i’r cynlluniau cyflawni sydd wedi’u cyhoeddi eisoes, ni fwriedir i ddatganiadau ansawdd bennu sut y dylai gwasanaethau gael eu cynllunio a’u cyflawni. Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yw’r rhai sy’n cynllunio a chyflawni gwasanaethau. Mae datganiadau ansawdd yn nodi ein bwriadau o ran polisi ac yn nodi sut y mae gwasanaethau da yn edrych. Maent yn gosod disgwyliadau sy’n llawer iawn cliriach er mwyn i’r system ymateb iddynt.

 

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mae llythyr y Gweinidog Iechyd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn cadarnhau y bydd datganiad ansawdd ar gyfer gofal diwedd oes yn cael ei gyhoeddi. Dywed y Gweinidog: ‘Mae’r Datganiad Ansawdd Gofal Diwedd Oes yn mynd rhagddo’n dda ac mae’n cael ei gyd-gynhyrchu gan randdeiliaid statudol a gwirfoddol.  Yn ystod y misoedd nesaf, bydd proses o ymgynghori ar y datganiad ansawdd gyda rhanddeiliaid ehangach yn cael ei chynnal a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr haf.’ 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.